Archwiliwch
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, a drefnir gan Lywodraeth Cymru ac a enwebir ar eu cyfer gan y cyhoedd.
Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiannau eithriadol arwyr cyffredin di-glod, unigolion adnabyddus, mudiadau, cwmnïau, a grwpiau o bob rhan o Gymru ar draws 11 categori.
Gall unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer y gwobrau, a derbynnir hunan-enwebiadau. Y categorïau ar gyfer 2025-26 yw:
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Arwr Cymunedol
- Busnes
- Ceidwad yr Amgylchedd
- Chwaraeon
- Dewrder
- Diwylliant
- Gwasanaethu’r Cyhoedd
- Gwirfoddoli
- Person Ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog (a dewisir gan y Prif Weinidog)
Pwyllgor Ymgynghorol Gwobrau Dewi Sant sy’n dewis y teilyngwyr yn y 9 categori cynt.
Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr sy’n penderfynu pwy sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr.
Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni ym mis Mawrth 2026.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 26 Medi 2025