Archwiliwch
Mae recordiad o’r ail gweminar yn y cyfres Trafod Digonolrwydd Chwarae, sef Digonolrwydd chwarae ar lefel genedlaethol ar gael nawr i’w wylio ar-lein.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar yw:
- Ruth Conway, Llywodraeth Cymru
- Alan Herron, Playboard Northern Ireland
- Marguerite Hunter Blair, Play Scotland
- Marianne Mannello, Chwarae Cymru
- Eugene Minogue, Play England
- Adrian Voce, Starlight
Cynhaliwyd a chymedrolwyd y gweminar gan Dr Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw) a Mike Barclay a Ben Tawil (Ludicology).
Digwyddodd y gweminar ym mis Chwefror 2025. Mae’n rhan o gyfres o bedair gweminar sy’n edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae. Mae’r gweminar yn rhannu enghreifftiau o waith a wnaed i gefnogi digonolrwydd chwarae ar lefel genedlaethol, gan archwilio beth sy’n gwneud y gwaith hwn yn bosibl.
Mae’r gyfres o weminarau yn rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU. Maent yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru.
Archebwch eich lle rhad ac am ddim ar gyfer ein gweminarau nesaf:
Mae lleoedd ar gael o hyd i fynychu dwy weminar olaf y gyfres – archebwch eich lle nawr:
Gweminar Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol
1 Ebrill 2025 (12.30pm – 2.00pm)
Dyddiad cael ar gyfer archebu: 24 Mawrth 2025
Gweminar Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth
13 Mai 2025 (12.30pm – 2.00pm)
Dyddiad cael ar gyfer archebu: 5 Mai 2025