Archwiliwch
Mae recordiad o’r gweminar, Trafod Digonolrwydd Chwarae – Cyflwyno digonolrwydd chwarae: pam a sut ar gael nawr i’w wylio ar-lein.
Y siaradwyr a gymerodd ran yn y gweminar yw:
- Dr Wendy Russell, Prifysgol Swydd Gaerloyw
- Ben Tawil, Ludicology
- Mike Barclay, Ludicology
- Theresa Casey
- Keith Towler, Chwarae Cymru
- Mike Greenaway, Chwarae Cymru
Cynhaliwyd y gweminar ym mis Ionawr 2025 a dyma’r gyntaf mewn cyfres o bedair gweminar sy’n edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae. Mae’r gweminar yn cyflwyno’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae, pam mae’n bwysig, a dulliau o asesu a sicrhau cyfleoedd digonol i chwarae.
Mae’r gyfres o weminarau yn rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU. Maent yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru.
Archebwch eich lle rhad ac am ddim ar gyfer ein gweminarau nesaf:
Mae lleoedd ar gael o hyd i fynychu dwy weminar olaf y gyfres – archebwch eich lle nawr:
Gweminar Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol
1 Ebrill 2025 (12.30pm – 2.00pm)
Dyddiad cael ar gyfer archebu: 24 Mawrth 2025
Gweminar Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth
13 Mai 2025 (12.30pm – 2.00pm)
Dyddiad cael ar gyfer archebu: 5 Mai 2025