Digwyddiad Chwarae Cymru
Fforwm Gweithwyr Chwarae 2025
Dyddiad
02-03/07/2025
Pris (aelod)
£55
Pris (ddim yn aelod)
£110
Trefnydd
Chwarae Cymru
Lleoliad
Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys
Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.
Anelir y digwyddiad at weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae, rheolwyr gwaith chwarae, ymarferwyr ysgolion fforest a gweithwyr gofal plant a phawb sydd am gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am waith chwarae, yn enwedig y tu allan.
Disgwylir i’r cyfranogwyr wersylla a bydd angen iddynt ddod â’u hoffer gwersylla eu hunain. Darperir diodydd poeth, ciniawau, brecwast a swper.
Ffi cyfranogwyr – eleni rydym wedi sicrhau cyllid i ddarparu pris gostyngol arbennig ar gyfer cyfranogwyr sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Mae croeso hefyd i weithwyr chwarae o’r tu allan i Gymru.
- Ffi cyfranogwyr o Gymru – £55
- Ffi llawn i gyfranogwyr eraill – £110
Archebwch eich lle o 12 Mawrth 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliad a’r ardal leol, ewch at Shakespeare Link.
Rydym am wneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn gynhwysol ac yn hygyrch i gyfranogwyr sydd am fynychu. Sylwer: mae’r digwyddiad a’r lleoliad yn gwbl awyr agored. Os oes gennych ofynion mynediad penodol yr hoffech eu trafod, cofiwch gysylltu gyda ni.
Darperir gofod gwersylla fel rhan o’r ffi cyfranogwyr, ac mae hyn yn cynnwys brecwast bwffe. Mae hyn yn helpu i gadw’r costau cyffredinol yn isel fel bod mwy o bobl yn gallu mynychu ac rydym yn gobeithio y bydd yn caniatáu i dimau, yn ogystal ag unigolion, fynychu. Mae’r profiad awyr agored yn rhan o’r hyn sy’n gwneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad datblygiad proffesiynol unigryw ac felly byddwn yn annog cyfranogwyr i wersylla er mwyn ennill cymaint â phosibl o’r digwyddiad hwn.