Cym | Eng

Newyddion

Cylchgrawn diweddaraf yr IPA ar gael ar-lein

Date

08.01.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae cylchgrawn diweddaraf yr International Play Association (IPA), Play Rights ar gael i’w ddarllen ar-lein am ddim.

Mae rhifyn Gaeaf 2024 yn canolbwyntio ar yr hyn y mae llywodraethau ledled y byd yn ei wneud i amddiffyn a hyrwyddo hawl plant i chwarae. Mae’n cynnwys erthygl gan Gyfarwyddwraig Gynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello, sef ‘Play Sufficiency Duty in Wales: How has it enabled planning for play at the local level?’

Mae’r rhifyn diweddaraf hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan awduron yn Lloegr, India, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Bydd aelodau IPA Cymru Wales yn cael mynediad at rifynnau y dyfodol o gylchgrawn Play Rights. Mae manteision ymuno â’r IPA hefyd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau byd-eang a bod yn rhan o rwydwaith rhyngwladol ar gyfer eiriolaeth chwarae.

Mae aelodaeth IPA Cymru Wales ar gael i’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors