Cym | Eng

Digwyddiad arall

Grŵp B Diogelu Canolraddol Plant a Phobl Ifanc

Dyddiad

21/11/2024

Amser

9:30am - 4:00pm

Pris (ddim yn aelod)

£98

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Nod y cwrs hwn yw rhoi hyder i gyfranogwyr a gwybodaeth gyfredol hanfodol ar sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd.

Nodau y cwrs:

  • dysgu am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau allweddol ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys e-ddiogelwch
  • deall rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc
  • deall arferion gwaith diogel sy’n hanfodol i gadw plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn ddiogel mewn lleoliad gwaith
  • nodi nodweddion gwahanol fathau o gam-drin plant a sut i adnabod y rhain yn ymarferol
  • gwybod sut i ymateb yn effeithiol i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, neu ei esgeuluso
  • gallu disgrifio egwyddorion a ffiniau cyfrinachedd a phryd i rannu gwybodaeth

Pwy ddylai fynychu:

Mae’r cwrs wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn ystod eang o leoliadau gweithle a chymunedol.

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n rhan o Grŵp B fel y disgrifir yn y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol, fodd bynnag gall ymarferwyr o Grŵp A fynychu hefyd os oes angen hyfforddiant diogelu mwy manwl.

Safonau Diogelu Cenedlaethol Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu.

Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, ebostiwch Plant yng Nghymru i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors