Archwiliwch
Mae adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi ar brosiect mentora ymchwil cymdogaethau peilot a gynhaliwyd yng Nghymru rhwng Awst 2023 a Mehefin 2024, wedi’i ariannu gan Brifysgol Swydd Gaerloyw.
Arweiniwyd y prosiect ymchwil gan Mike Barclay, Ben Tawil, Wendy Russell, Donna Gaywood ac Emily Ryall, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru. Roedd yn cynnwys darparu pecyn mentora i gefnogi staff mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal ymchwil ar lefel cymdogaeth i gyfleoedd plant. Yna lluniwyd cynlluniau gweithredu o’r ymchwil, fel rhan o rôl y staff a gymerodd ran yn y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae.
Mae’r adroddiad, Datblygu Ymateb Cymdogaethau i’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae: Adroddiad ar y prosiect mentora ymchwil cymdogaethau Awst 2023-Mehefin 2024 yn rhoi gwerthusiad o’r ymchwil ac yn cynnig ystyriaethau allweddol ar gyfer cynnal prosiectau mentora yn y dyfodol.