Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol

Date

26.03.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu penderfyniad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol, sy’n cydnabod hawl plant i chwarae a’i phwysigrwydd i’w lles.

Cynhelir y Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf ar 11 Mehefin 2024, a phob blwyddyn wedi hynny. Bydd yn gyfle i dynnu ymwybyddiaeth fyd-eang at chwarae plant ac i arddangos y gwaith sy’n cael ei wneud i’w gefnogi.

Pleidleisiodd aelodau’r International Play Association (IPA), gan gynnwys IPA Cymru Wales, yn unfrydol i eirioli i’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yng Nghynhadledd Byd yr IPA ym mis Mehefin 2023.

Ymunodd yr IPA â nifer o bartneriaid byd-eang gan gynnwys sefydliadau hawliau plant ac arbenigwyr chwarae i alw ar aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig i gefnogi’r penderfyniad. Bu’r Child Friendly Governance Project hefyd yn gweithio’n uniongyrchol i ymgysylltu a chefnogi lleisiau plant ledled y byd yn yr alwad.

Mae Chwarae Cymru yn edrych ymlaen at weithio gydag IPA Cymru Wales ar gyfleoedd i nodi’r digwyddiad pwysig hwn.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors