Archwiliwch
Hyd yma yn 2024, rydym wedi cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant. Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – mae bob un ohonynt ar gael i’w lawrlwytho am ddim.
Crynodeb ymchwil
Crynodeb – Chwarae a lles: Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru
Mae hwn yn grynodeb o Chwarae a lles, adolygiad llenyddol a fydd ar gael yn fuan. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.
Taflen wybodaeth
Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae
Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan yr Athro Emeritws Fraser Brown, yn ymwneud â amddifadedd chwarae a photensial gwaith chwarae i oresgyn y canlyniadau. Mae wedi’i hanelu at ddarparwyr chwarae, ymchwilwyr chwarae a’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae, iechyd a lles plant.
Cylchgrawn Chwarae dros Gymru
Chwarae a lles – cip arall
Rhifyn 62 (Hydref | Gaeaf 2023)
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn cymryd cip arall ar chwarae a lles. Dengys yr erthyglau sut y gall amser, lle a rhyddid i chwarae fod o fudd mawr i iechyd meddwl plant, gan liniaru straen a lleihau effaith niweidiol trawma.
Rhestr ddarllen
Rhestr ddarllen ar gyfer athrawon – Cefnogi chwarae plant mewn ysgolion
Rydym wedi rhoi rhestr o adnoddau argymelledig at ei gilydd ar gyfer meddwl am chwarae yn yr ysgol. Mae’r rhestr ddarllen yn fan cychwyn ar gyfer myfyrio a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer y rheini sydd â diddordeb gwella cyfleoedd plant i chwarae yn yr ysgol.