Llyfrgell adnoddau
Chwarae dros Gymru – rhifyn 62
Pwnc
Cylchgrawn
Dyddiad cyhoeddi
12.03.2024
Hydref | Gaeaf 2023
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn cymryd cip arall ar chwarae a lles. Dengys yr erthyglau sut y gall amser, lle a rhyddid i chwarae fod o fudd mawr i iechyd meddwl plant, gan liniaru straen a lleihau effaith niweidiol trawma. Mae’r erthyglau’n cynnwys:
- Yr Athro Helen Dodd, Ms Gill Hearnshaw a Dr Lily Fitzgibbon yn dweud wrthym pam fod chwarae rhydd o bwys i iechyd meddwl plant
- Cyflwyniad i ddull galluogrwydd perthynol tuag at les gan Dr Wendy Russell, Mike Barclay a Ben Tawil
- Y tîm ym Maes Chwarae Antur Meriden yn rhannu eu profiad o ddefnyddio arddull chwarae therapiwtig yn eu lleoliad
- Defnyddio ymarfer wedi’i hysbysu gan chwarae i gefnogi plant sydd wedi’u heffeithio gan drawma
- Trosolwg o brosiect cydweithredol newydd rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Starlight a Chwarae Cymru i wella profiadau chwarae plant mewn ysbytai
- Archwilio sut mae chwarae a gwaith chwarae yn cysylltu gyda egwyddorion fframwaith NYTH Llywodraeth Cymru
- Creu’r cysylltiadau rhwng yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- Cyflwyniad i’n taflen wybodaeth sydd newydd ei diweddaru, Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae, a ysgrifennwyd gan Yr Athro Emeritws Fraser Brown
- Newyddion cyffrous am ariannu ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae
- Cyfweliad gyda Emma Booth am waith chwarae mewn carchardai
- Esiampl o gymuned chwareus ble mae ffocws ar chwarae yn ganolog i welliannau cydweithredol yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam.