Cym | Eng

Newyddion

Redrow yn lansio ymgyrch Please Play Here

Date

25.07.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r cwmni datblygu tai, Redrow wedi lansio ymgyrch i annog plant yn y DU i chwarae y tu allan yr haf hwn.

Gan weithio gydag arbenigwyr chwarae gan gynnwys Tim Gill, Dr Helen Dodd a Chwarae Cymru, nod yr ymgyrch #PleasePlayHere yw datblygu cymunedau chwarae-gyfeillgar ysbrydoledig ledled y wlad.

Mae’r ymgyrch wedi’i lansio yn unol â chyhoeddiad adroddiad ymchwil gan Redrow, From Placemaking to Playmaking: Encouraging Community Play across the UK. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ganlyniadau arolwg o 2,000 o rieni ac yn datgelu dirywiad mewn chwarae plant yn yr awyr agored, o gymharu â chenhedlaeth eu rhieni. Mae hefyd yn dangos bod 73% o rieni y DU yn teimlo bod ffyrdd yn rhy beryglus nawr i ystyried anfon plant allan i chwarae.

Er bod diffyg mynediad i fannau diogel yn rhwystr allweddol i fynd allan, mae’r adroddiad yn datgelu bod rhieni yng Nghymru yn cydnabod manteision chwarae yn yr awyr agored. Mae dros hanner yn meddwl ei fod yn bositif i iechyd corfforol eu plentyn (55%), yn eu tynnu oddi wrth sgriniau (61%) ac yn bositif i’w hiechyd meddwl (64%). Maent hefyd yn credu ei fod yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol (56%), cwrdd â mwy o ffrindiau (49%) a’u haddysgu am natur (46%) a diogelwch (38%).

Mae’r ymgyrch Please Play Here yn cael ei harwain gan seicolegydd plant ac athro ym Mhrifysgol Caerwysg, yr Athro Helen Dodd, sy’n gweithio gyda Redrow fel cynghorydd arbenigol a ‘Head of Playmaking’.

Dywedodd yr Athro Dodd:

‘Mae’r ymchwil yn dangos bod llai o blant yn chwarae yn yr awyr agored nag yng nghenhedlaeth eu rhieni, gyda dirywiad arbennig o nodedig mewn chwarae stryd. Mae rhieni’n cydnabod bod chwarae yn yr awyr agored yn bwysig i iechyd corfforol, iechyd meddwl a sgiliau cymdeithasol plant… (ac) eisiau gweld mwy o fannau chwarae diogel yn eu cymdogaeth leol.’

Dywedodd Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello:

‘Mae plant o bob oedran yn dweud yn gyson bod chwarae a chwrdd â’u ffrindiau yn bwysig iddyn nhw. Yr awyr agored yw eu hoff le i chwarae o hyd.

‘Mae Chwarae Cymru’n galw am well defnydd o fannau cyhoeddus – fel y gall plant ac arddegwyr allu archwilio a chwarae yn eu cymdogaethau. Mae gan ddatblygwyr ac adeiladwyr tai ran hanfodol i’w chwarae wrth greu mynediad i fannau lle gall plant chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.’

Fel rhan o’r ymgyrch, mae Redrow wedi lansio adnoddau i gefnogi gweithgareddau chwarae awyr agored i blant, gyda deunyddiau ychwanegol i ddilyn drwy gydol yr haf.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors