Chwarae
Diwrnod Rhyngwladol Chwarae
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles.

Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth byd-eang o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn digwydd ar 11 Mehefin bob blwyddyn.
Diwrnod Rhynwladol Chwarae 2026
Mae’r thema eleni – Gwarchod Chwarae, Gwarchod Plentyndod – yn ein hatgoffa’n groyw nad yw chwarae ond ar gyfer un diwrnod, mae’n rhywbeth i’w warchod a’i flaenoriaethu trwy gydol y flwyddyn, gan lunwyr polisïau, ysgolion, ysbytai, teuluoedd, a chymdogion/aelodau o’r gymuned.
Her Chwarae 31
Mae’r Her Chwarae 31 yn alwad i bob ysgol ledled y DU ac Iwerddon i roi 31 munud yn fwy i chwarae ar 11 Mehefin. Trwy ymestyn amserau egwyl a chefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, gall ysgolion ddangos eu cefnogaeth i rym chwarae, a’u parch tuag at hawl plant i chwarae.
Mae hon yn alwad i weithredu gan yr UK Children’s Play Policy Forum, mewn cydweithrediad gyda phump cangen yr International Play Association (IPA) yn y DU ac Iwerddon: IPA Cymru Wales, IPA England, IPA Ireland, IPA Northern Ireland, ac IPA Scotland. Mae Chwarae Cymru yn aelod o’r UK Children’s Play Policy Forum.
Cymryd rhan
O feysydd chwarae i balmentydd, gerddi i gemau, bydd chwarae’n digwydd ym mhobman – rhannwch eich dathliadau a’ch myfyrdodau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwaraeRhyngwladol
I gefnogi ysgolion i roi mwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae 2026, rydym ni wedi detblygu rhestr o awgrymidau anhygoel. Mae’r rhestr yn llawn syniadau syml ac ymarferol ar gyfer nodi’r diwrnod.
Mae’n hadnoddau eraill i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn cynnwys:
- Poster hawl i chwarae
- Fideo fer chwarae’n yn yr ysgol
- 31 syniad chwarae
- Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol.
Cefndir
Ar 25 Mawrth 2024, mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y cynnig am Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol.
Pleidleisiodd aelodau’r International Play Association (IPA), gan gynnwys IPA Cymru Wales, yn unfrydol i eirioli i’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yng Nghynhadledd Byd yr IPA ym mis Mehefin 2023.
Ymunodd yr IPA â nifer o bartneriaid byd-eang gan gynnwys sefydliadau hawliau plant ac arbenigwyr chwarae i alw ar aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig i gefnogi’r penderfyniad. Bu’r Child Friendly Governance Project hefyd yn gweithio’n uniongyrchol i ymgysylltu a chefnogi lleisiau plant ledled y byd yn yr alwad.
Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed ar 11 Mehefin 2024.