Llyfrgell adnoddau
Adnoddau Chwarae Cymru
Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae. Maent wedi eu hanelu at bawb sydd â diddordeb yn, neu sy’n gyfrifol am, chwarae plant.
Yn yr adran hon cewch hyd i’n hadnoddau i gyd. Maent yn cynnwys pecynnau cymorth, arweiniad, taflenni gwybodaeth, awgrymiadau anhygoel, a mwy.
‘Dyw pob adnodd heb gael ei ychwanegu hyd yma – os ydych chi’n edrych am gyhoeddiad gan Chwarae Cymru ac yn methu dod o hyd iddo yn fan hyn cofiwch gysylltu â ni.
Adnodd diweddaraf
Mae’r rhifyn llawn hwn o’r cylchgrawn yn cymryd cip arall ar chwarae a lles.
Cylchgrawn | 12.03.2024
Chwarae dros Gymru – rhifyn 62Rhifyn 'Chwarae a lles – cip arall' o'n cylchgrawn
Pecyn cymorth
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Datblygu a rheoli mannau chwaraeMae’r pecyn hwn wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae cymunedol.
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plantPecyn i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd.
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Creu mannau chwarae hygyrchPecyn i gynorthwyo’r bobl hynny sy’n rhan o ddatblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch.
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a TheithwyrCanllaw ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd neu rai sy’n bodoli eisoes.
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Agor strydoedd ar gyfer chwaraePecyn i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau fydd yn galluogi prosiectau chwarae stryd wedi eu harwain gan drigolion.
Pecyn cymorth | 27.03.2023
Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy strydLlawlyfr a deunyddiau cefnogol sy'n anelu i gefnogi rhieni i drefnu sesiynau chwarae ar eu stryd.
Pecyn cymorth | 01.11.2015
Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysguMae’r pecyn hwn yn annog agwedd gydweithredol i agor tiroedd ysgol i blant lleol chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol.