Gweithio Gyda Ni
Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau
Date posted
24.06.2026
Rôl rhan amser, sy'n gwneud cyfraniad allweddol i gynllunio, trosglwyddo a gwerthuso digwyddiadau a gweithgarwch cyfathrebu o safon uchel
Lleoliad: gweithio o gartref yn bennaf, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd a theithio trwy Gymru
Oriau: 30 awr yr wythnos o Dydd Llun i Ddydd Gwener
Cyflog: £28,713 (cyfwerth ag amser llawn £35,312) NJC 24-27
Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2026
Dyddiad cyfweliad: wythnos yn cychwyn 13 Gorffennaf 2026
Mae Chwarae Cymru yn recriwtio Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau rhan-amser i ymuno â’n tîm bychan.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau yn gwneud cyfraniad allweddol i gynllunio, trosglwyddo a gwerthuso digwyddiadau a gweithgarwch cyfathrebu o safon uchel, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg gyda phrofiad o waith cyfathrebu a chydlynu digwyddiadau, a gydag ymrwymiad cryf i ymarfer cynhwysol, hygyrch a dwyieithog.
Mae’r dyletswyddau’n cynnwys creu cynnwys dwyieithog ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, cydlynu gweithgareddau e-farchnata, a chefnogi cynllunio a throsglwyddo digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae’r criteria hanfodol ar gyfer y swydd hon yn cynnwys o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl â ffocws ar gyfathrebu, a sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Chwarae Cymru’n croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hil, oedran, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gredoau.