Llyfrgell adnoddau
Adnoddau Chwarae Cymru
Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae. Maent wedi eu hanelu at bawb sydd â diddordeb yn, neu sy’n gyfrifol am, chwarae plant.
Yn yr adran hon cewch hyd i’n hadnoddau i gyd. Maent yn cynnwys pecynnau cymorth, arweiniad, taflenni gwybodaeth, awgrymiadau anhygoel, a mwy.
‘Dyw pob adnodd heb gael ei ychwanegu hyd yma – os ydych chi’n edrych am gyhoeddiad gan Chwarae Cymru ac yn methu dod o hyd iddo yn fan hyn cofiwch gysylltu â ni.
Adnodd diweddaraf
Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant.
Awgrymiadau anhygoel | 29.10.2024
Chwarae a lles – Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar GymruMae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae plant a lles. Mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.