Cym | Eng

Play Policy & Legislation

IPA Cymru Wales

Lansiwyd IPA Cymru Wales ar 1 Mawrth 2023. Mae’r International Play Association (IPA) yn sefydliad rhyngwladol anllywodraethol i warchod, diogelu, a hybu hawl plant i chwarae.

Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd, sydd nawr yn cynnwys cangen yng Nghymru. Mae gwaith, gwerthoedd ac egwyddorion IPA Cymru Wales yn cael eu cynnal gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn benodol Erthygl 31:

‘Mae gwladwriaethau sy’n barti yn cydnabod hawl y plentyn i orffwys a hamdden, i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gyfranogi’n rhydd mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.’

Aelodaeth

Ymunwch ag IPA Cymru Wales i gefnogi mudiad rhyngwladol sy’n gweithio i warchod, diogelu a hybu hawl y plentyn i chwarae.

Mae aelodaeth IPA Cymru Wales ar gael i bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Cynigir amrywiol lefelau aelodaeth ar gyfer unigolion a sefydliadau.

Ymwelwch â gwefan IPA i ymuno

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi clustnodi 11 Mehefin fel Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol, gan gydnabod bod grym chwarae wrth galon plentyndod iach a hapus. Yng Nghynhadledd Fyd-eang yr International Play Association (IPA) ym Mehefin 2023, pleidleisiodd aelodau’r IPA, yn cynnwys IPA Cymru Wales, yn unfrydol i argymell i’r CU dros gynnal Diwrnod Rhyngwladol Chwarae.

Rhagor o wybodaeth am Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Gangen, Marianne Mannello, gydag unrhyw gwestiynau am IPA Cymru Wales.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors