Cym | Eng

News

Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Date

13.08.2024

Category

News

Archwiliwch

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl ar gyfer 2024 ac ar agor ar gyfer enwebiadau.

Wedi’i trefnu gan CGGC (WCVA), mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru.

Eleni, mae’r gwobrau’n cynnwys wyth categori:

  • Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 oed neu hŷn)
  • Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed neu iau)
  • Codwr arian y flwyddyn
  • Hyrwyddwr amrywiaeth
  • Gwobr defnydd o’r Gymraeg
  • Mudiad bach mwyaf dylanwadol
  • Iechyd a lles
  • Mudiad y flwyddyn.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 13 Medi 2024

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors