Cym | Eng

Newyddion

Gweithdy hawl i chwarae wedi’i ddiweddaru

Date

24.09.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad o’r Gweithdy hawl i chwarae. Mae’r gweithdy wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w gynnal mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. Gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o sut i gefnogi a hwyluso chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae.

Mae’r Gweithdy hawl i chwarae yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn anelu i alluogi plant ac arddegwyr i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.

Mae’r gweithdy’n cysylltu â Chwricwlwm i Gymru a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio yn ystod ac ar ôl y sesiwn yn cynnwys:

  • gynllun sesiwn gweithdy
  • nodiadau i hwyluswyr
  • syniadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.

Gellir trosglwyddo’r Gweithdy hawl i chwarae ar ei ben ei hun, ond mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol ar gyfer cychwyn perthynas gydag ysgol.

Lawrlwytho’r Gweithdy hawl i chwarae

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors