Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’w ymgynghoriad ar eithriadau cofrestru gofal plant a’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig. Ceisiodd yr ymgynghoriad 12 wythnos, a gynhaliwyd rhwng 11 Awst a 3 Tachwedd 2025, farn darparwyr cofrestredig ac anghofrestredig a sefydliadau cynrychiadol, yn ogystal â phlant a theuluoedd.
Mae Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymatebion hefyd yn cynnwys camau nesaf Llywodraeth Cymru:
Yn dilyn newidiadau o ganlyniad i’r ymgynghoriad, rhagwelir y caiff Gorchymyn Eithriadau 2026 ei wneud ym mis Ebrill 2026, y bydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2027 ac y caiff ei orfodi’n llawn erbyn mis Ebrill 2028 yn dilyn cyfnod trosiannol am flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyhoeddi canllawiau er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r Gorchymyn a’r broses o’i gymhwyso.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell parhau â’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, gan sicrhau bod ei nodau a’i gyfyngiadau yn dryloyw, egluro nad yw’n disodli’r gofyniad i gofrestru, a chefnogi’r broses weithredu drwy ddarparu canllawiau clir a dulliau gwerthuso cadarn. Cam nesaf y gwaith fydd mireinio manylion y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Y dyddiad targed disgwyliedig ar gyfer rhoi’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar waith yw mis Ebrill 2027.
Ynghyd â’r crynodeb o ymatebion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cryno am ymgysylltiad Cymru Ifanc gyda phlant a phobl ifanc i gasglu eu barn.