Archwiliwch
Mae Diwrnod Chwarae eleni – y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae yn y DU – ar 6 Awst, ac rydym ni eisiau clywed am ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae sy’n digwydd yma yng Nghymru.
Ar Ddiwrnod Chwarae, bydd mudiadau a phrosiectau ledled Cymru a gweddill y DU yn trefnu digwyddiadau i ddathlu hawl plant i chwarae. Mae’r digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i blant a theuluoedd fynd allan i chwarae. Mae digwyddiadau Diwrnod Chwarae yn amrywio o bicnic tedi bêrs yn y parc i ddathliadau tref-gyfan – a phopeth yn y canol!
Os ydych chi’n trefnu dathliad Diwrnod Chwarae sy’n rhad ac am ddim i’w fynychu yn eich ardal, gallwn ni helpu i hysbysebu eich digwyddiad i deuluoedd, drwy rannu gwybodaeth ar ein gwefan Plentyndod Chwareus. I’n helpu ni rannu manylion perthnasol am eich dathliad, cwblhewch a dychwelwch ein ffurflen digwyddiadau Diwrnod Chwarae, os gwelwch yn dda. Cofiwch ddarparu’r wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg os yn bosibl.