Cym | Eng

Newyddion

Diwrnod Chwarae 2026 – cyhoeddi’r thema

Date

14.05.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dydd Mercher 5 Awst 2026 yw’r Diwrnod Chwarae, y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae. Mae Diwrnod Chwarae, gaiff ei ddathlu ar hyd a lled y DU bob blwyddyn, yn galw ar deuluoedd, arweinyddion cymunedol, darparwyr chwarae, lleoliadau gofal plant, a phawb sy’n gweithio gyda phlant, i hyrwyddo ac eiriol dros bwysigrwydd chwarae.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni yw…

Chwarae – yma, acw a phobman

Mae’r thema eleni’n pwysleisio pwysigrwydd creu cyfleoedd i blant chwarae ble bynnag y maen nhw. Mae chwarae’n digwydd yma, acw a phobman, o ystafelloedd byw i gatiau’r ysgol, i strydoedd, parciau, a chymdogaethau. Mae’n rhan o fywyd bob dydd plant, ac mae’n cael effaith aruthrol ar eu hapusrwydd, eu hiechyd, a’u lles. Pan gefnogir plant i chwarae yn y gofodau bob dydd hyn, rydym yn helpu i feithrin canlyniadau cadarnhaol, a chreu cymunedau ble y gall plant ffynnu.

Ar ein Diwrnod Chwarae eleni, rydym yn gofyn i bob plentyn gael mynediad i:

  • enydau chwareus. Gall enydau bychain o chwarae, gartref ac allan yn y byd mawr, trwy gydol y diwrnod wneud gwahaniaeth mawr i fywydau bob dydd plant.
  • anturiau bob dydd. ’Does dim rhaid i chwarae olygu gweithgareddau drud, teganau costus, neu deithiau arbennig i gyrchfannau pell, yn aml iawn y syniadau rhad ac am ddim, symlaf fydd yn fwyaf o hwyl. 
  • chwarae wrth ymlwybro o amgylch y gymdogaeth. Gall gwneud siwrneiau bob dydd, i’r ysgol, y feithrinfa, y siopau neu’r parc, yn fwy chwareus a chyfeillgar at blant fod yn bleserus i bawb.
  • amgylcheddau cynhwysol a chroesawus. Bydd mannau a gofodau ble mae plant o bob oed a gallu’n teimlo eu bod yn perthyn, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w mwynhad o chwarae.

Mae gan blant i gyd hawl i gael amser, lle a rhyddid i chwarae – yma, acw ac ym mhobman. Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn annog teuluoedd, arweinyddion cymunedol, darparwyr chwarae, lleoliadau gofal plant, a phawb sy’n gweithio gyda phlant i eiriol dros fannau a chyfleoedd gwell i chwarae, gan helpu i greu byd mwy chwareus ble gall plant dyfu a ffynnu.

Am y newyddion diweddaraf ar yr ymgyrch eleni, dilynwch ni ar Facebook ac ymunwch yn yr hwyl drwy ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwarae2026 a #ChwaraeBobman.

Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Chwarae Cymru, Play England, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors