Cym | Eng

Cyllid

Ariannu: Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru

Date

30.10.2024

Category

Cyllid

Ariannu: Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru

Archwiliwch

Mae Grantiau Gwirfoddoli Cymru yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddyfarnu drwy WVCA, i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru. Mae’r Prif Gynllun Grant yn cynnig cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at dwy flynedd o hyd.

Nodau’r cynllun grant yw:

 

  • Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
  • Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
  • Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Ionawr 2025

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors