Archwiliwch
Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid i gasglu enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerwyd yn lleol i gefnogi chwarae plant, fel rhan o waith digonolrwydd chwarae. Mae pob enghraifft yn anelu i ddangos y cyd-destun unigryw, y prosesau a’r bobl fu’n rhan o’r prosiect. Efallai y byddant yn cynnig syniadau y gellir eu haddasu ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio i gefnogi chwarae plant.
Cyflwynir yr enghreifftiau ar ffurf ‘cardiau adroddiad’, a ysbrydolwyd gan ymchwil digonolrwydd chwarae a gynhaliwyd gan Wendy Russell, Mike Barclay, Ben Tawil a Charlotte Derry. Yn yr ymchwil hwn, mae’r 26 o gardiau adroddiad yn enghreifftiau o gamau gweithredu i gefnogi chwarae plant. Cewch hyd i’r cardiau adroddiad yn adroddiad cryno adroddiad 2020, Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni Digonolrwydd Chwarae: Archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant yng Nghymru chwarae.
Yr wyth enghraifft yw:
Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf
Pecyn Cymorth Teuluoedd Chwareus
Prosiect peilot Aros a Chwarae