Cym | Eng

Newyddion

Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar yn canmol ehangu cyfleoedd chwarae a gofal plant cyfrwng Cymraeg

Date

13.08.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy wedi canmol ehangu’r ddarpariaeth o gyfleoedd chwarae a gofal plant blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnaethpwyd sylwadau’r Gweinidog yn ystod cyfarfodydd gyda Mudiad Meithrin a Chlybiau Plant Cymru yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £500,000 eleni ac wedi ymrwymo £1.1 miliwn y flwyddyn nesaf i hyfforddi’r gweithlu i ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae’r cyllid hwn yn galluogi Mudiad Meithrin, y sefydliad cenedlaethol ar gyfer grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, i ddarparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg, yn barhaus, ar gyfer 100 o ddysgwyr Lefel 3 a 50 Lefel 5 drwy ei raglen ‘Cam wrth Gam’.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi sicrhau bod £1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer chwarae plant, drwy raglen Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae. Mae’r ariannu wedi’i anelu at gefnogi mynediad i fwy o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc mewn cymunedau bregus yn ystod gwyliau’r ysgol a darparu bwyd a byrbrydau iach.

Mae tua 22,000 o blant yng Nghymru yn elwa o ddarpariaeth gofal a chwarae blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg bob wythnos. Y gobaith yw y bydd ehangu’r gweithlu yn gwella ymhellach hygyrchedd, argaeledd a fforddiadwyedd darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors