Archwiliwch
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS, wedi ymrwymo i gyflawni hawliau plant yn ymarferol. Mae ‘ymrwymo i wireddu hawliau plant mewn bywyd bob dydd ledled Cymru’ yn ran ganolog o flaenoriaethau cenedlaethol y llywodraeth newydd.
Daeth y diweddariad gan y llywodraeth newydd dair blynedd ar ôl i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gyhoeddi ei Adroddiad Sylwadau Terfynol ar y DU yn 2023. Wrth ymateb i’r sylwadau, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyn hawliau plant yn cynnwys:
- darparu cynnig gofal plant cyffredinol ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed
- cyflwyno strategaeth tlodi plant newydd fel bod gan blant safon byw sy’n diwallu eu hanghenion corfforol, meddyliol a chymdeithasol
- canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a lleihau anghydraddoldebau yn y system iechyd
- datblygu system fwy integredig i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles
- codi safonau mewn addysg i sicrhau’r amodau gorau ar gyfer addysgu a dysgu.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
‘Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi rhoi babanod, plant a phobl ifanc yng nghanol ein blaenoriaethau cenedlaethol, gan ymrwymo i wireddu hawliau plant mewn bywyd bob dydd ledled Cymru … Rydym yn adeiladu Cymru decach lle mae hawliau plant yn cael eu deall, eu parchu a’u gwireddu mewn bywyd bob dydd.’