Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Galw ar blant i ddweud eu dweud am amser chwarae/egwyl

Date

07.05.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, yn gofyn i bob plentyn oedran ysgol yng Nghymru i rannu eu barn am amser chwarae/egwyl.

Yn ei Mater Misol ym mis Mai – cyfle misol i blant gael dweud eu dweud ar bwnc penodol – mae’r Comisiynydd yn gofyn i blant:

  • Ydych chi’n mwynhau amser chwarae/egwyl? Pam? Ydy e’n bwysig?
  • Ydych chi byth yn colli amser chwarae egwyl? Beth fyddai’n gwneud eich amser chwarae/egwyl chi’n well?

Mae sleidiau cyflwyno ar gael i ysgolion gynradd ac uwchradd a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol i gefnogi sesiynau trafod yn yr ystafell ddosbarth.

Nod y sesiynau Mater Misol yw galluogi plant a phobl ifanc i helpu i lunio gwaith Comisiynydd Plant Cymru. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gan y Comisiynydd i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Chwarae sy’n digwydd ar 11 Mehefin 2024.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors