Cym | Eng

Gwaith Chwarae

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae

Archwiliwch

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae yn gyfres o safonau sy’n amlinellu’r cymwyseddau sydd eu hangen ar weithwyr chwarae mewn nifer o feysydd gwaith.

Ar gyfer gwaith chwarae, mae’r NOS yn cynnwys y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn weithiwr chwarae, yn weithiwr chwarae â chyfrifoldeb neu’n rheolwr gwaith chwarae.

Defnyddir y NOS er mwyn helpu i ysgrifennu cymwysterau. Gall gweithwyr chwarae a chyflogwyr hefyd eu defnyddio i ddatblygu hyfforddiant, swydd ddisgrifiadauac i asesu safon ymarfer gwaith chwarae.

Rhwng 2024 a 2026, cynhaliodd Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae. Yn dilyn yr adolygiad, cyhoeddwyd NOS newydd – yn Gymraeg a Saesneg – ym mis Medi 2026. Ynghyd â’r NOS, mae’r consortiwm hefyd wedi cyhoeddi Map Swyddogaethol a Geirfa.

Mae’r NOS wedi eu cyhoeddi ar Fasdata Safonau a Fframweithiau’r DU.

 

Adolygu’r NOS

Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a’r Playwork Foundation. Sefydlwyd y consortiwm i gynllunio’n strategol ar gyfer dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a mentrau sgiliau sector ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys adolygiad o’r NOS.

Cafodd yr adolygiad ei hunanariannu gan y consortiwm, a’i arwain gan Chwarae Cymru. Ceir mwy o wybodaeth am yr adolygiad yn y diweddariadau hyn a gynhyrchwyd gan y consortiwm:

 

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Learn more
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors