Digwyddiad arall
Grŵp C Diogelu ar gyfer y Person Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr
Dyddiad
3 - 4 Mehefin 2026
Pris (aelod)
£280
Pris (ddim yn aelod)
£280
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Dyluniwyd y cwrs deuddydd hwn ar gyfer yr Arweinydd Diogelu Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr.
Mae gan yr Arweinydd Diogelu Dynodedig rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith a bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi. Mae’n berthnasol i leoliadau amrywiol – ysgolion, gofal plant, gwasanaethau gwirfoddol a phreifat sy’n darparu gweithgareddau, dysgu a chymorth i blant a theuluoedd.
Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n rhan o Grŵp C ac sy’n ymarfer o fewn rôl Arweinydd Diogelu Penodedig fel y disgrifir yn y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol.