Cym | Eng

Digwyddiad arall

Hawliau Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

Dyddiad

30 Mehefin 2026

Amser

9:30am - 3:30pm

Pris (aelod)

Am ddim

Pris (ddim yn aelod)

Am ddim

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc.

Mae’r cwrs hyfforddi hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol.

Nodau:

  • Deall beth yw CCUHP, sut mae’n cael ei weithredu a’i fonitro yng Nghymru
  • Cael trosolwg o bolisïau blynyddoedd cynnar Cymru o fewn cyd-destun hawliau plant
  • Deall sut mae hawliau’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc
  • Deall sut mae llais plentyn yn cael ei glywed yn y blynyddoedd cynnar
  • Ymwybyddiaeth o offer a dulliau i’w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc i gefnogi eu hawliau a’u llais.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors