Digwyddiad arall
Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Pobl Ifanc 11-25 oed
Dyddiad
23 Gorffennaf 2026
Amser
9:30am - 3:30pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol, bydd y cwrs hwn yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru. Bydd hefyd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda pobl ifanc ar sail unigol a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys ymestyn eu rhan mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol.
Amcanion dysgu:
- Ennill dealltwriaeth o hawliau plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Cymru
- Archwilio beth mae ‘cyfranogiad’ yn ei olygu i bobl ifanc o wahanol oedrannau
- Meddu ar ddealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n cefnogi gwaith sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc
- Ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc
- Archwilio rhwystrau i gyfranogiad ac atebion posibl
- Deall sut i sefydlu a rhedeg fforwm ieuenctid
- Datblygu cynllun gweithredu unigol i chi symud y gwaith hwn yn ei flaen.