Digwyddiad arall
Hawliau Plant a Chyfranogiad i Blant o Dan 11 oed
Dyddiad
9 Gorffennaf 2026
Amser
9:30am - 3:30pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol, bydd y cwrs hwn yn gosod allan y fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad plant yng Nghymru. Bydd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio yn uniongyrchol gyda phlant unigol a mewn grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
Amcanion dysgu:
- Cael dealltwriaeth o hawliau plant yn y cyd-destun Cymreig
- Beth mae ‘cyfranogiad’ yn ei olygu i blant o wahanol oedrannau
- Meddu ar ddealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n cefnogi cyfranogiad ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
- Ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda phlant
- Nodi rhwystrau ac atebion posibl i gyfranogiad
- Datblygu cynllun gweithredu unigol.