Digwyddiad arall
Dwyieithrwydd ar waith
Dyddiad
22 Medi 2026
Amser
10:00am – 12:00pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
CGGC (WCVA)
Lleoliad
Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd y sesiwn am ddim hon, gan Dîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn caniatáu i gyfranogwyr ddatblygu defnydd eu sefydliad o’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a chymorth ymarferol ar sut i gynllunio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eu sefydliad.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Deall cyd-destun hanesyddol a chyfredol y Gymraeg yn well
- Deall y sefyllfa ynglŷn â deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus y Gymraeg yn well
- Deall perthnasedd y Gymraeg i’w cwsmeriaid a’u defnyddwyr gwasanaeth
- Disgrifio manteision y Gymraeg o fewn cyd-destun y trydydd sector
- Adnabod a defnyddio’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill.
Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer:
- Gweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sydd eisiau dysgu mwy am rôl y Gymraeg o fewn eu sefydliad
- Swyddogion â chyfrifoldeb dros ddarpariaeth Gymraeg eu sefydliad
- Unigolion sydd eisiau deall mwy am berthnasedd y Gymraeg i’w rôl.
Uchafswm o ddau le i bob mudiad.