Swyddi Sector
Swyddog Hyfforddi
Mudiad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Lleoliad: I weithio o’r swyddfa yng Nghaerdydd, â chytundeb gweithio ystwyth yn ei le (50:50)
Oriau: 37 awr yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Gwener)
Cyflog: £32,076 pro rata (£33,366 ar lwyddo i dderbyn cadarnhad mewn swydd, fel arfer wedi chwe mis)
Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2025
Prif ffocws y rôl yw cefnogi’r gyfundrefn i ddiwallu ein nodau strategol drwy gyflawni ac asesu hyfforddiant o ansawdd uchel er mwyn cefnogi’r sector gofal plant all-ysgol a’r gweithlu gwaith chwarae.
Mae’r tasgau allweddol yn cynnwys:
- cyflawni cymhwysterau gwaith chwarae, hyfforddiant a gweithdai deinamig
- cyflawni gweithdai’n seiliedig ar chwarae a modelu dull gwaith-chwarae cadarnhaol
- ymgymryd ag asesu dysgwyr gwaith chwarae yn y gweithle
- creu adnoddau hyfforddi
- ymgymryd cymhwyster Dyfarniad Lefel 3 mewn Darparu Hyfforddiant Gwaith Chwarae Deinamig (ADDaPT).
Mae’r sgiliau a phrofiad craidd ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:
- gwybodaeth / profiad mewn gwaith chwarae ac arferion gwaith chwarae cyfredol
- cymhwyster hyfforddiant a phrofiad profedig o hyfforddi oedolion
- gwybodaeth a phrofiad o gyflawni cyrsiau gwaith chwarae
- y gallu a phrofiad i gyflwyno sesiynau ar-lein.