Swyddi Sector
Gweithiwr Chwarae/Ieunectid
Mudiad: Cyngor Gwirfoddol Sirol Wrecsam (AVOW)
Lleoliad: Plas Madog a Pharc Caia, Wrecsam
Oriau: 16 awr yr wythnos
Cyflog: £13.45 yr awr
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2026 (12:00pm – hanner dydd)
Dyddiad cyfweliad: 6 Mai 2026
Mae’r swydd hon wedi’i hariannu am 12 mis i ddechrau.
Mae AVOW yn recriwtio Gweithiwr Chwarae/Ieuenctid rhan-amser i helpu i hwyluso cyfleoedd chwarae, ac i gefnogi plant a phobl ifanc i feithrin hyder a pherthnasoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â brwdfrydedd ac arloesedd i waith y tîm ar y meysydd chwarae antur a bydd hefyd yn hwyluso grwpiau cymunedol croesawgar a chynhwysol i oedolion a theuluoedd.
Mae angen cymhwyster lefel 2 mewn gwaith chwarae, gwaith ieuenctid, neu gymhwyster cyfatebol.