Cym | Eng

Swyddog Grant a Chyllid

Mudiad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Lleoliad: wedi’i lleoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Cross Hands, gyda pholisi gwaith ystwyth yn ei le

Oriau: 18.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)

Cyflog: £33,366 pro rata (£34,433.71 ar lwyddo i dderbyn cadarnhad mewn swydd, fel arfer wedi chwe mis)

Dyddiad cau: 13 Medi 2026

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn recriwtio Swyddog Grant a Chyllid rhan amser i weithredu, cydlynu a rheoli strategaeth ariannu genedlaethol y sefydliad, gan sicrhau cyllid cynaliadwy i gefnogi blaenoriaethau’r sefydliad a galluogi parhad mewn rolau, gwasanaethau a phrosiectau allweddol.

Mae’r sgiliau a phrofiad craidd ar gyfer y swydd yn cynnwys:

  • Profiad profedig o sicrhau cyllid grant i ysgogi twf cynaliadwy a datblygiad sefydliadol
  • Dealltwriaeth o brosesau ariannu llywodraeth genedlaethol a lleol
  • Sgiliau wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth ariannu gynhwysfawr, gan gynnwys gosod nodau, amserlenni a chynlluniau gweithredu ar gyfer ceisiadau ariannu cenedlaethol a rhanbarthol.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors