Swyddi Sector
Cydlynydd Canolfan Deuluol
Closing date
29/08/2025
Mudiad: Plant Dewi
Lleoliad: Canolfan Deuluol Llandysul, Sir Gar
Oriau gwaith: 22.5 awr yr wythnos
Cyflog: £17,406 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol)
Dyddiad cau: 29 Awst 2025
Mae Plant Dewi yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i gydlynu Canolfan Deuluol Llandysul a chynnig amrywiaeth eang o wasanaethau dwyieithog i deuluoedd, gan gynnwys aros a chwarae mynediad agored, grwpiau babanod a phlant bach, clybiau cinio, gweithdai rhyngweithiol a chyrsiau i rieni.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o hwyluso grwpiau, rheoli staff neu gwirfoddolwyr a gwneud cais am gyllid.
Yn ddelfrydol, bydd gennych addysg hyd at lefel gradd/QCF lefel 5, a/neu brofiad sylweddol o weithio gyda phlant a theuluoedd.