Swyddi Sector
Dirprwy Reolwr
Closing date
15/08/2025
Mudiad: Clwb All-Ysgol Plasnewydd, Caerdydd
Lleoliad: Caerdydd
Oriau gwaith: 16.5 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor
Cyflog: £15 yr awr
Dyddiad cau: 15 Awst 2025
Rhagor o wybodaeth: Pwrpas y rôl hon yw cynorthwyo’r rheolwr i redeg y lleoliad clwb ar ôl ysgol hwn o ddydd i ddydd.
Gan weithio fel rhan o dîm a’u cefnogi, byddwch yn rhan o gynllunio a chyflwyno cyfleoedd chwarae llawn hwyl a chreadigol i blant 4 i 11 oed.
Byddwch hefyd yn gwneud y siopa wythnosol ac yn cynorthwyo i gwblhau tasgau gweinyddol fel gwiriadau iechyd a diogelwch dyddiol, asesiadau risg a diweddaru cofrestri presenoldeb.
Meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon yw safon dda o addysg hyd at TGAU a chymhwyster lefel 3 perthnasol mewn gwaith chwarae, neu gymhwyster gofal plant cysylltiedig cyfatebol fel CCLD lefel 3 (Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant).
I wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a datganiad personol yn amlinellu’r sgiliau a’r profiad y byddwch yn eu cynnig i’r rôl, at reolwr y lleoliad, Areatha Comanescu.