Cym | Eng

Swyddi Sector

Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant – Abertawe

Mudiad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Lleoliad: swyddfa yn Crosshands, Sir Gâr â chytundeb gweithio ystwyth yn ei le

Oriau: 28.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener), gyda’r posibilrwydd o gynyddu oriau i 37 awr yn amodol ar gyllid llwyddiannus

Cyflog: £33,366 (£34,433.71 ar ôl llwyddo i dderbyn cadarnhad mewn swydd, fel arfer wedi 6 mis)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27 Ebrill 2026

Prif ffocws y rôl yw helpu cymunedau drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd o ansawdd, ac wedi eu llywodraethu’n gadarn, ac ateb y galw am fwy o ofal plant wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar hyd a lled Cymru.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn edrych am y profiad a’r sgiliau craiddd hyn ar gyfer y swydd hon:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o reoliadau, gofynion a deddfwriaeth arall gyfredol AGC, er enghraifft Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), amddiffyn plant, diogelu, iechyd a diogelwch a chyfle cyfartal
  • Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion gofal plant a chwarae, a rôl Clybiau Gofal Plant All-Ysgol, o fewn yr agenda economaidd
  • Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth a/neu profiad profedig mewn busnes, gwaith chwarae neu ofal plant.

Mae’r swydd wedi cael i’w hariannu gan Cyngor Abertawe ac ar gael tan 31 Mawrth 2027. Mae parhad y swydd hon yn ddibynnol ar barhad cyllid a benderfynir arno fel arfer ar sail flynyddol.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors