Cym | Eng

Swyddi Sector

Swyddog Gofal Plant a Chwarae

Closing date

27/08/2025

Mudiad: Cyngor Gwynedd
Lleoliad: Plas Pawb, Maesincla, Caernarfon
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (swydd dros dro tan 31 Mawrth 2028)
Cyflog: £31,537 i £33,699 y flwyddyn
Dyddiad cau: 27 Awst 2025

Prif bwrpas y rôl hon yw gefnogi’r Swyddog Strategol Gofal Plant gydag ymchwilio a llunio adolygiadau ac asesiadau digonolrwydd statudol o fewn y maes Gofal Plant a Chwarae.

Byddwch yn gweithredu ar raglen waith blynyddol i’r maes dan arweiniad y cyngor, partneriaid allweddol a Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn cymryd rôl strategol i sicrhau llefydd gofal plant digonol ar gyfer holl cynlluniau cyllido y Blynyddoedd Cynnar, gan gydweithio gyda’r staff perthnasol a’r asiantaethau i gael gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar a chwarae o ansawdd.

Byddwch yn cynorthwyo’r lleoliadau, pwyllgorau rheoli a’r cyrff arweiniol i gydymffurfio i anghenion Arolygaeth Gofal Cymru fel  gweithdrefnau gofal plant a pholisïau ar gyfer rhedeg yr holl leoliadau i gyrraedd gofynion cynlluniau cyllido y Blynyddoedd Cynnar.

Byddwch hefyd yn cydlynu’r drefn o rannu llefydd gofal plant i’r teuluoedd sy’n deilwng o’u hawliad Dechrau’n Deg, GP2 ag addysg feithrin.

Bydd gan yr ymgeisydd ddelfrydol

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster NVQ lefel 3 mewn gofal plant neu chwarae, neu bydd yn barod i weithio tuag at gymhwyster gofal plant neu chwarae.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar mewn lleoliad gofal plant, chwarae neu addysg.

Bydd gennych hefyd brofiad o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors