Cym | Eng

Swyddi Sector

Arweinydd Chwarae Clwb All-Ysgol

Closing date

01/09/2025

Mudiad: Dylan’s Den, Treorci
Lleoliad: Ysgol Gynradd Treorci
Oriau gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener, 2.45 – 6pm (yn ystod y tymor yn unig)
Cyflog: Gan ddechrau ar yr isafswm cyflog neu uwch, yn dibynnu ar gymwysterau ac oedran
Dyddiad cau: 1 Medi 2025

Pwrpas y rôl hon yw arwain ar drefnu a hwyluso cyfleoedd chwarae i blant yn y lleoliad all-ysgol Dylan’s Den.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn aelod tîm gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol i ffitio i mewn i’r lleoliad hapus a phrysur hwn.

Mae profiad diweddar o weithio mewn lleoliad chwarae yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster chwarae lefel 3 o leiaf ynghyd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad.

Mae gwybodaeth gadarn am yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, gweithio’n ddiogel gyda phlant a rheoli tîm staff hefyd yn hanfodol.

Mae profiad blaenorol mewn lleoliad chwarae gyda phlant 3 i 11 oed yn ddymunol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r rheolwr, Gina Grimstead neu ffoniwch 07596 639616.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors