Llyfrgell adnoddau
Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru
Pwnc
Ymchwil
Dyddiad cyhoeddi
08.10.2025
Darllen yr adnodd
Adroddiad ymchwil sy’n archwilio aliniad ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid ar draws Cymru. Mae’n tynnu sylw at enghreifftiau o ymarfer wedi ei alinio mewn awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector, gan bwysleisio buddiannau a heriau’r arddull hwn. Wedi ei gomisiynu gan Chwarae Cymru, fe gyflawnwyd yr ymchwil gan Alex Drury a’r Athro Mandy Robbins o Brifysgol Wrecsam.
Mae’r canfyddiadau yn Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru yn datgelu y gall ymarferion wedi eu halinio yn sectorau hyn arwain at wella trosglwyddiad gwasanaethau, gwell dealltwriaeth ynghylch anghenion plant, a pherthnasau cryfach rhwng ymarferwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, mae angen mynd i’r afael â heriau megis gwahanol egwyddorion, gofynion hyfforddiant a ffactorau allanol fel ariannu ac aliniad polisi er mwyn mwyafu buddiannau’r arddull hwn.
Mae’r ymchwil yn anelu i hysbysu trafodaethau pellach ar aliniad strategol y sectorau gwaith chwarae a gwaith ieuenctid er mwyn cyfoethogi trosglwyddo gwasanaethau ar gyfer plant. Bydd hefyd o ddiddordeb i ymarferwyr gwaith chwarae a gwaith ieuenctid.
Mae’r adroddiad yn cloi gydag argymhellion yr ymchwilwyr ar gyfer arweinyddion strategol, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisïau i gefnogi datblygiad ymarferion sydd wedi’u halinio a chyfoethogi effeithlonrwydd cyffredinol gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru.