Hawl i chwarae
Gweithdy hawl i chwarae
Pwnc
Hawl i chwarae
Dyddiad cyhoeddi
24.09.2024
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Medi 2024
Mae’r gweithdy hwn wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w gynnal mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill. Mae wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio gan unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o sut i gefnogi a hwyluso chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae.
Mae’r Gweithdy hawl i chwarae yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn anelu i alluogi plant ac arddegwyr i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Mae’r gweithdy’n cysylltu â Chwricwlwm i Gymru a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio yn ystod ac ar ôl y sesiwn yn cynnwys:
- gynllun sesiwn gweithdy
- nodiadau i hwyluswyr
- syniadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.
Gellir trosglwyddo’r Gweithdy hawl i chwarae ar ei ben ei hun, ond mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol ar gyfer cychwyn perthynas gydag ysgol.