Llyfrgell adnoddau
Chwarae dros Gymru – Rhifyn 64
Pwnc
Cylchgrawn
Dyddiad cyhoeddi
30.04.2025
Darllen yr adnodd
Hydref | Gaeaf 2024
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn archwilio’r thema cynllunio ar gyfer chwarae – cynnwys y plant. Mae’n cynnwys enghreifftiau o bob cwr o Gymru.
Mae’r erthyglau yn tynnu sylw at sut mae annog plant i gyfranogi, i wneud penderfyniadau am eu hamgylchedd chwarae, a chydweithio gyda phlant o bob oed i gyflawni eu hanghenion chwarae o fudd mawr i bawb sy’n rhan o’r broses. Mae’r erthyglau’n cynnwys:
- Dull Ymgysylltu ar Ofod Chwarae – sut mae plant ac arddegwyr lleol wedi hysbysu datblygiad pecyn cymorth newydd Cyngor Sir Ynys Môn i ymgyslltu gyda phlant o bob oed ar gyfer cynllunio ardaloedd chwarae
- Arloeswyr Cynllunio – Tom Pughsley o Caerdydd Sy’n Dda i Blant sy’n rhannu esiamplau o sut mae’r tîm yn gwreiddio lleisiau’r plant mewn datblygu trefol ledled y ddinas
- Gwrando ar blant – Lauren Cole a Gareth Stacey sy’n rhannu eu profiadau o sut maent yn cynyddu digonolrwydd chwarae gyda ymchwil hyperleol yn Sir Gaerfyrddin a Wrecsam
- Dewch inni siarad am chwarae – cwrs newydd wedi’i gymeradwyo gan Chwarae Cymru, a gyflawnir gan wirfoddolwyr ifanc mewn clwb ar ôl ysgol yng Ngwynedd yn ddiweddar
- Llysgenhadon Chwarae – plant yn Ysgol Gynradd Windsor Clive yng Nghaerdydd sy’n dweud wrthym am eu hymdrechion codi arian, hyrwyddo’r hawl i chwarae ac ymweliad llawn hwyl gan The Flying Seagull Project
- Kian Wilson, gweithiwr chwarae ifanc o Rhondda Cynon Taf sydd dan y chwyddwydr
- Gweithwyr chwarae’n hybu teithio llesol gyda phlant yn Nhorfaen
- Cyfweliad gyda’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS
- Adroddiad cynnydd gan Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.