Llyfrgell adnoddau
Agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae – pecyn cymorth
Pwnc
Llyfrgell adnoddau
Dyddiad cyhoeddi
14.03.2025
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Mawrth 2025
Mae’r pecyn cymorth hwn wedi ei ddylunio i gynorthwyo penaethiaid, llywodraethwyr a mudiadau lleol i weithio gyda’i gilydd i ystyried sicrhau bod tiroedd ysgol ar gael i blant lleol chwarae y tu allan i oriau ysgol.
Mae’r pecyn hwn wedi ei ddatblygu i gefnogi ysgolion i gynnig cyfleoedd i blant chwarae yn yr ysgol y tu allan i oriau ysgol. Mae’n anelu i ddileu rhai pryderon a chynnig man cychwyn. Bwriedir iddo gefnogi gweithrediad canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch y defnydd o diroedd ysgol gan y gymuned.
Mae hwn yn fersiwn diwygiedig, wedi ei ddiweddaru o becynnau cymorth blaenorol a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru i gefnogi’r defnydd o diroedd ysgol ar gyfer chwarae. Mae’n cynnwys adnoddau defnyddiol, megis:
- gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisi a mentrau perthnasol
- templed polisi chwarae ysgol
- templed cynllun chwarae y tu allan i oriau ysgol
- awgrymiadau anhygoel ar gyfathrebu â rhieni.
Mae ariannu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm wedi galluogi Chwarae Cymru i ffurfio partneriaethau gyda thimau datblygu chwarae awdurdodau lleol, timau ysgolion bro ac ysgolion i ddatblygu’r fersiwn newydd hon o’r pecyn cymorth.