Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Chwarae a lles – Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru

Pwnc

Awgrymiadau anhygoel

Dyddiad cyhoeddi

29.10.2024

Darllen yr adnodd

Chwarae a lles – Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru

Awduron: Wendy Russell, Mike Barclay and Ben Tawil
Dyddiad: Hydref 2024

Mae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae plant a lles. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.

Mae’r adolygiad llenyddiaeth, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

Wedi ei rannu’n bump pennod, mae’n cynnwys gwybodaeth am:

  • gefndir, cwmpas ac arddull yr adolygiad llenyddol
  • cyd-destun a fframio’r adolygiad
  • rôl chwarae mewn lles plant
  • chwarae plant heddiw
  • cefnogi chwarae plant.

Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn. Cyflawnwyd y mwyafrif o’r ymchwil ar gyfer yr adolygiad rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2023 ac mae’n adlewyrchu’r hyn oedd ar gael ar y pryd.

 

Fersiwn wedi’i argraffu ar gael i’w harchebu

Mae Chwarae a lles ar gael i’w archebu mewn print – yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Y gost am bob copi yw £49.50 gan gynnwys postio yn y DU. Cysylltwch â ni ar gyfer archebion y tu allan i’r DU.

I archebu Chwarae a lles, llenwch y ffurflen hon:

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Cadarnhewch y cyhoeddiad(au) yr hoffech ei archebu:
Cymraeg:
Saesneg:
Cyfeiriad dosbarthu
Manylion anfoneb:
Cyfeiriad anfoneb

Rydym yn derbyn taliad drwy anfoneb ar gyfer y cyhoeddiad (gan gynnwys post yn y DU). Anfonir yr anfoneb i’r cyfeiriad ebost yr ydych wedi ei gynnwys yn eich archeb.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Awgrymiadau anhygoel | 14.05.2025

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn yr ysgol Awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn yr ysgol

Awgrymiadau anhygoel i helpu ysgolion i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Gweld

Awgrymiadau anhygoel | 18.04.2023

Awgrymiadau anhygoel: Datblygiad Proffesiynol Parhaus Awgrymiadau anhygoel: Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Awgrymiadau anhygoel ar gyfer adnabod a chynyddu cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Gweld

Awgrymiadau anhygoel | 18.04.2023

Awgrymiadau anhygoel – dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae Awgrymiadau anhygoel – dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae

Awgrymiadau anhygoel ar sut i wneud y gorau o’ch amser a’ch cyllidebau hyfforddi wrth ddethol darparwr hyfforddiant gwaith chwarae.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors