Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Datblygu darpariaeth chwarae a blynyddoedd cynnar mewn safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Pwnc

Llyfrgell adnoddau

Dyddiad cyhoeddi

04.12.2025

Darllen yr adnodd

Datblygu darpariaeth chwarae a blynyddoedd cynnar mewn safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Rhagfyr 2025

Pecyn cymorth sydd wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth glir a chryno sy’n helpu i greu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth y bwriedir iddo eich helpu i ddeall a mynd i’r afael â materion sy’n peri pryder. Mae hefyd yn cynnwys templedi ac adnoddau cam wrth gam, ymarferol ar gyfer cyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â dileu’r rhwystrau i gael mynediad i gyfleoedd i chwarae a wynebir gan blant Sipsiwn a Theithwyr. Mae wedi ei rannu yn dair adran:

  • Pwysigrwydd chwarae – mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y buddiannau uniongyrchol a gohiriedig y mae mynediad i chwarae’n ei gynnig i blant, yn ogystal â disgrifiad o amgylchedd chwarae cyfoethog.
  • Modelau darpariaeth – mae’r adran hon yn dynodi buddiannau a nodweddion allweddol saith model gwahanol, llwyddiannus o ddarpariaeth chwarae.
  • Adnoddau defnyddiol – mae’r adran hon yn cynnwys casgliad o adnoddau i archwilio, asesu a chynllunio ar gyfer chwarae, ac mae’n cynnwys syniadau ar gyfer ymgysylltu gyda phlant a rhieni.

Dyluniwyd y pecyn cymorth ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am, neu sydd ynghlwm â, rheoli neu ddatblygu safleoedd newydd, neu safleoedd sy’n bodoli eisoes, ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Gallai’r rhain gynnwys: adrannau a swyddogion cynllunio, penseiri, swyddogion cyswllt Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol, rheolwyr ymgynghori a chymryd rhan, rheolwyr a wardeiniaid safleoedd, timau datblygu chwarae, timau plismona yn y gymdogaeth, a Sipsiwn a Theithwyr.

Mae hwn yn fersiwn wedi ei adolygu a’i ddiwygio o ganllaw ymarfer dda a ddatblygwyd gan Chwarae Cymru a Travelling Ahead a gyhoeddwyd yn 2015. Am eu cefnogaeth i’r fersiwn newydd hwn, diolch yn fawr i Dîm Gofal Plant a Chwarae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, There and Back Again Gypsy & Traveller Awareness, a Travelling Ahead: Wales Gypsy, Roma and Traveller Advice and Advocacy Service.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Ymchwil | 17.10.2025

Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025

Plant ledled Cymru yn dweud eu dweud am eu cyfleoedd i chwarae

Gweld

Ymchwil | 08.10.2025

Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru Tir cyffredin: Archwilio ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid yng Nghymru

Adroddiad ymchwil ar y cysylltiadau rhwng ymarfer gwaith chwarae a gwaith ieuenctid

Gweld

Cylchgrawn | 26.09.2025

Chwarae dros Gymru – rhifyn 65 Chwarae dros Gymru – rhifyn 65

Rhifyn chwarae yn y gymdogaeth ein cylchgrawn

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors