Llyfrgell adnoddau
Chwarae mewn gofal iechyd
Pwnc
Taflen wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi
16.06.2025
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Mehefin 2025
Mae’r daflen wybodaeth hon yn trafod effaith gadarnhaol chwarae ar les plant ac arddegwyr sy’n profi salwch difrifol a thriniaeth mewn ysbyty. Mae’n disgrifio’r gwahanol rolau medrus ac arbenigol sydd gan y gweithlu chwarae iechyd – fel arbenigwyr chwarae iechyd, gweithwyr chwarae iechyd a gweithwyr ieuenctid ysbyty, ac yn trafod sut mae pob rôl yn cefnogi proses chwarae therapiwtig sy’n helpu plant ac arddegwyr sâl i addasu i leoliad gofal iechyd.
Mae’r daflen wybodaeth yn archwilio’r gwahanol ymyriadau chwarae iechyd a all gefnogi plant a’u teuluoedd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’u salwch a’u triniaeth. Mae’r ymyriadau hyn yn cynnwys:
- cymorth cyn mynd i’r ysbyty
- chwarae normaleiddio
- technegau tynnu sylw a chreu gwrthdyniad
- cymorth a chwarae wedi triniaeth
Mae’r daflen wybodaeth hefyd yn egluro pam ei bod yn bwysig darparu gwahanol fannau a chyfleoedd i blant mewn lleoliadau gofal iechyd chwarae, gan gynnwys ystafelloedd chwarae, mannau i blant hŷn a gofod awyr agored.