Polisi a deddfwriaeth chwarae
Popeth am bolisi chwarae
Archwiliwch
Mae Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) wedi cefnogi chwarae plant ers ei sefydlu yn 1999.
Yn 2000, dosbarthodd Senedd Cymru Grant Chwarae gwerth £1m i awdurdodau lleol. Fe wnaeth hefyd gomisiynu adolygiad o chwarae mynediad agored yng Nghymru, yn edrych ar sut y gwariodd awdurdodau lleol y Grant Chwarae. Galwodd adroddiad Cyflwr Chwarae: adolygiad o ddarpariaeth chwarae mynediad agored yng Nghymru a chynllun grant Chwarae 2000 am bolisi a strategaeth chwarae genedlaethol.
Mae chwarae’n rhan bwysig o fywydau plant a phlant yn eu harddegau ac mae’n digwydd ble bynnag y byddant yn treulio’u hamser. Fel eiriolwr dros chwarae, mae’n bwysig bod Chwarae Cymru’n cyfrannu at ystod eang o ddadleuon a phenderfyniadau polisi – yn cynnwys rhai am iechyd a lles, addysg, datblygu’r gweithlu, teithio a thrafnidiaeth, a chynllunio.
Yng Nghymru
Ar lefel genedlaethol, mae Chwarae Cymru wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei Bolisi Chwarae, Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae, deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau. Fe wnaethom hefyd ddrafftio’r adroddiad ar gyfer Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Chwarae (2022) a’r papur cefndir cysylltiedig.
Rhwng 2000 a 2012, fe gynhaliom adolygiadau cenedlaethol Cyflwr Chwarae. Defnyddir y dogfennau strategol hyn gan Chwarae Cymru a Llywodraeth Cymru i archwilio materion sy’n ymwneud â chwarae plant yng Nghymru. Eu pwrpas oedd darparu gwybodaeth am:
- sut y mae amrywiol bolisïau a rhaglenni ariannu cenedlaethol wedi cefnogi darpariaeth chwarae ar lefel leol
- materion cyffredin sy’n ymwneud â chwarae plant.
Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i basio cyfraith ar gyfleoedd i chwarae. Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn amod cyfreithiol i awdurdodau lleol gynnal Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh). Cyflwynwyd y cyntaf o’r ADCh teirblynyddol hyn i Lywodraeth Cymru yn 2013.
Ers 2013, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu ac adrodd ar ADCG, adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu awdurdodau lleol.
Yn y DU
Fel aelodau o Children’s Play Policy Forum (CPPF) a Play Safety Forum (PSF) y DU, mae Chwarae Cymru’n cyfrannu at waith polisi’r DU. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cenedlaethol eraill yn y DU sydd â diddordeb mewn chwarae plant neu ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae.
The Children’s Play Policy Forum
Mae’r fforwm hon yn gweithio i eiriol dros, i hyrwyddo a chynyddu dealltwriaeth pobl am bwysigrwydd chwarae plant a darpariaeth chwarae gynhwysol o safon.
Mae’n gwneud hyn trwy weithio gyda llywodraethau lleol, cenedlaethol a datganoledig, a gyda’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat trwy’r DU i:
- ddarparu llwyfan ar gyfer trafod a rhwydweithio i unrhyw un sy’n gysylltiedig â chwarae
- cefnogi aelodau i weithio gydag ac i lobïo llywodraethau’r pedair gwlad i droi Erthygl 31 yn realiti, ynghyd ag erthyglau perthynol eraill o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
- cynrychioli’r safbwyntiau amrywiol sy’n bodoli yn y sectorau chwarae a gwaith chwarae
- lobïo ar ran y sector chwarae i atgyfnerthu ymrwymiad i chwarae.
Dysgwch fwy am y Children’s Play Policy Forum
The Play Safety Forum
Mae’r fforwm hon yn hyrwyddo taro cydbwysedd rhwng diogelwch, risg a her mewn darpariaeth chwarae a hamdden. Mae’n dynodi, datblygu a darparu cyngor ac arweiniad sy’n:
- pennu a hybu agwedd cytbwys ac ystyriol at risg, her, buddiannau a diogelwch
- cynghori ar bolisi ac arfer sy’n berthnasol i risg-budd a diogelwch mewn mannau ble bydd plant yn chwarae
- sicrhau bod cyngor ar gael i reolyddion, asiantaethau ac adrannau o’r llywodraeth.
Dysgwch fwy am y Play Safety Forum
Yn rhyngwladol
Mae Chwarae Cymru’n aelod gweithgar o’r International Play Association (IPA). Mae hwn yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol a sefydlwyd yn 1961 i amddiffyn, gwarchod a hyrwyddo hawl plant i chwarae fel hawl dynol sylfaenol.
Dysgwch fwy am yr International Play Association
Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith chwarae byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA. Mae Chwarae Cymru yn gweithredu fel ysgrifenyddiaeth ar gyfer IPA Cymru Wales, a sefydlwyd fel cangen ar ddiwedd 2022.