Cym | Eng

Newyddion

Senedd Ieuenctid Cymru – arolwg trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

Date

24.09.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gofyn i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Mae’r arolwg ar agor i’r rheini sydd rhwng naw ac un ar hugain mlwydd oed ac yn byw yng Nghymru.

Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eisiau gwybod beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ar gyfer profiadau plant a phobl ifanc o deithio o gwmpas Cymru. Bydd yr adborth yn helpu’r aelodau i ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.

Rhannwch yr arolwg Ffyrdd at Yfory gyda’r plant, pobl ifanc a theuluoedd yr ydych yn gwethio â hwy, os gwelwch yn dda.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors