Cym | Eng

Newyddion

Meysydd chwarae Cymru yn helpu plant i gyfathrebu eu anghenion chwarae

Date

28.05.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae byrddau cyfathrebu â symbolau wedi cael eu gosod mewn meysydd chwarae ledled Cymru i helpu plant sy’n wynebu rhwystrau o ran cyfathrebu i fynegi eu hanghenion – megis eu hanghenion chwarae – yn hawdd.

Mae’r byrddau cyfathrebu, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn arddangos symbolau ar gyfer geiriau cyffredin yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys ‘chwarae’, ‘dringo’, ‘neidio’ a ‘hapus’.

Gall plant ag amhariadau lleferydd bwyntio at y byrddau, sydd wedi’u dylunio gan therapyddion iaith a lleferydd arbenigol, i fynegi eu dymuniadau a’u hanghenion wrth eraill.

Mae’r byrddau dwyieithog hefyd yn helpu teuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu geiriau Cymraeg sylfaenol.

Yn dilyn cynnal cynllun peilot llwyddiannus yn y Gorllewin, gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi cyllid gwerth £78,000 ar gyfer cyflwyno’r byrddau ledled Cymru i greu mannau chwarae cynhwysol i bob plentyn.

Dywedodd Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS:

‘Ry’n ni eisiau i bob plentyn yng Nghymru ffynnu, ac ry’n ni’n gwybod bod cyfathrebu yn hanfodol i ddyfodol plant. Dylai plant gael eu clywed a’u helpu i ddod o hyd i’w llais, yn Gymraeg a Saesneg, dim ots beth yw eu gallu i gyfathrebu.

‘Rwy’n falch y bydd ein buddsoddiad yn y byrddau arloesol hyn yn helpu i bontio’r bylchau rhwng dulliau cyfathrebu ac maen nhw’n gam tuag at greu meysydd chwarae cyfeillgar a chynhwysol.

‘Mae’r adborth cadarnhaol gan deuluoedd yn dangos sut y mae newidiadau bach mewn mannau cyhoeddus yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a’u datblygiad.’

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors